Normaleiddio’r Gymraeg yn fy ardal leol.

Pleser ydyw i rannu fy mhrofiadau i ddathlu ein hiaith ac yn wir i ddweud mewn undod yr ydym yn rhoi nerth a hyder i siarad yr iaith mewn achlysurau ac ardaloedd anghyffredin ac efallai annisgwyl.

Credaf ei fod yn bwysig i ddathlu llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol. Heb os nac oni bai, yr oedd yr iaith yn ffynnu yn y bae. Wythnos i gydnabod pwysigrwydd tyfiant yr iaith ym mywyd Caerdydd ydoedd ac yn sicr mi oedd hi’n bleser aruthrol i glywed yr iaith yn fyw ar hyd strydoedd y bae.

I fi, yr oedd yr Eisteddfod wedi profi pwysigrwydd apelio at bob cenhedlaeth ac i gydnabod Cymru fel gwlad amlhil a chymeradwyo’r amrywiaeth fel rhan allweddol o’n Cenedl. Yr oedd ‘Tiger Bay’ o hyd yn enwog am ddathlu amrywiaeth a chefndir gwahanol y boblogaeth. Yr oedd yr ardal yn byrlymu gydag amrywiaeth o dafodiaith o bob cyfandir. Ar sail hyn, teimlaf yn gryf bod ein hiaith yn berthyn i bob Cymro a Chymraes ac yn wir mi oedd hi’n hyfryd i weld sut gymaint o bobl yr ardal yn mwynhau gwyl sydd yn gallu teimlo’n ddieithr iddynt.

Mae sut gymaint o straeon wedi codi fy nghalon eleni gan gynnwys mewnfudwyr yn derbyn gwersi Cymraeg, llwyddiant yr ysgol Gymraeg cyntaf yn ardal mwyaf amlhil yng Nghymru, llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol i apelio at fwy o bobl sydd ddim fel arfer yn mynychu’r digwyddiad, poblogrwydd Tafwyl a dathliadau eraill gan fentrau iaith, llwyddiant y siarter Iaith yn fy rhanbarth @cscjes @siarteriaithccd @swyddogionygymraeg #Cymraeg, hybiau ailiaith sydd yn gwneud defnydd effeithiol o’r iaith o ddydd i ddydd, dysgwrdd anhygoel wedi cynnal gan @EasternhighCymraeg ac yn fwy nag unrhyw beth, pobl yn dangos parch at ddefnydd ein hiaith.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ffocws mawr ar ddatblygu’r iaith ond teimlaf nid y Llywodraeth yn unig sydd yn mynd i arwain at lwyddiant. Mae perthyn yn bwysig ac y mae’n hanfodol ein bod ni, siaradwyr Cymraeg, yn sicrhau bod pawb sydd yn dysgu’r iaith neu’n fodlon defnyddio’r iaith yn hyderus yn ein cwmni.

Daeth newyddion rhagorol yn ddiweddar wrth ddathlu cynnydd nifer o siaradwyr yng Nghymru,

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45592415

Mae’r erthygl yn rhoi gobaith i ni i gyrraedd miliwn o siaradwyr yn llawer gyflymach na’r disgwyl.

Ond efallai beth sydd yn rhoi gobaith i mi yw stori bersonol. Yr wyf yn hoffi dweud diolch, bore da ac ati wrth bobl sydd yn gweithio yn fy archfarchnad lleol. Yn ddiweddar, mae un o’r gweithwyr wedi dechrau ateb yn y Gymraeg. Mae hyn yn swnio’n ddibwys ar y wyneb ond mewn gwirionedd dyma’r allwedd at normaleiddio’r iaith ym mhob rhan o Gymru.

Mae rhaid i bob siaradwr Cymraeg rhoi hyder i ddysgwyr wrth drafod gyda nhw, defnyddio’r iaith wrth siopa, mewn bwyty ac ati. I ddefnyddio’r iaith ar y ffôn gyda banc neu ar lein. I ddangos bod galw ar gael hyd yn oed wrth dynnu arian mas o’r ATM. Yn fy meddygfa mae’na opsiwn i lofnodi eich presenoldeb yn y Gymraeg. Mae hi’n bwysig felly i ddefnyddio’r iaith ym mywyd pob dydd ac ar bob achlysur. Yn sicr normaleiddio’r iaith yw diben ein taith wrth gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.