Adroddiad Blynyddol ESTYN: Y Gymraeg yn y Sector Saesneg.

on

Yn yr adroddiad blynyddol gan ESTYN mae llawer o bethau i ganmol am gynnydd yn y Gymraeg yn y Sector Saesneg. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn derbyn sylw arbennig,

Yn y mwyafrif o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, mae disgyblion yn cychwyn yn dda wrth ddysgu siarad a gwrando yn Gymraeg. Mae agwedd gadarnhaol gan y rhan fwyaf o ddisgyblion tuag at ddysgu’r iaith, ac maent yn gwneud cynnydd da yn ystod sesiynau grŵp cyfan.

Hyfryd ydyw i ddarllen bod mwyafrif o ysgolion yn cynnig cychwyn da i ddisgyblion yn y Gymraeg. Wrth gwrs mae hyn hefyd yn golygu bod lle i wella gyda’r lleiafrif o ysgolion, tua 40%. Fodd bynnag, credaf fod y neges yn un syml, cael yr agwedd tuag at ddysgu’r iaith yn gywir yn y Cyfnod Sylfaen ac fe ddaw cynnydd yn y safonau.

Er hyn credaf fod angen ystyried, ‘cychwyn’ hynny yw, ydy’r sgiliau yn gwella digon o flwyddyn i flwyddyn? A oes bwriad i gynyddu defnydd o’r iaith tu hwnt i’r gwersi Cymraeg? Mewn sawl adroddiad ESTYN maent yn cyfeirio at y defnydd o’r Gymraeg ar draws yr ysgol ac yn aml mae hyn yn ymddangos fel un o’r argymhellion. 

Mae’r ysgolion Cyfun wedi dangos cynnydd yn y niferoedd o ddisgyblion sydd yn sefyll TGAU Cymraeg,

Mae safonau Cymraeg mewn llawer o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn gwella, gyda’r niferoedd sy’n cyflawni cymwysterau yn Gymraeg ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 yn cynyddu dros 12 pwynt canran rhwng 2010 a 2016

Gan gyfeirio at ragoriaeth, mae ESTYN wedi darganfod pwysigrwydd o glymu dysgu’r iaith gyda diwylliant Cymru gan gynnig cyfleoedd a darpariaeth tu hwnt i’r gwersi Cymraeg yn unig. 

Mae safonau’n rhagorol mewn ychydig iawn o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg. Yn yr achosion hyn, mae ysgolion yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r Gymraeg a diwylliant Cymru drwy ystod eang o weithgareddau anffurfiol, yn ogystal â thrwy ddull sydd wedi’i gynllunio’n dda ar draws y cwricwlwm. 

Wrth ystyried y meysydd i wella,

Nid yw dwy ran o dair o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn cynllunio’n ddigon da i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion. O ganlyniad, nid yw’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymarfer eu Cymraeg yn ddigon aml y tu allan i wersi Cymraeg ac nid yw’r hyder ganddynt i siarad yr iaith. Mae’r cynllunio ar gyfer dilyniant ar adegau trosglwyddo pwysig rhwng cyfnodau allweddol yn wan. Mae hyn yn ddiffyg pwysig yn y mwyafrif o ysgolion ledled Cymru.

Hyder i siarad yr iaith yw’r allwedd at gynyddu y nifer o siaradwyr Cymraeg yw’r ffocws.  Yn ogystal, mae prosesau pontio o gyfnod i gyfnod angen gwelliant parhaus.

Gyda chyfleoedd i ddathlu ein diwylliant, darparu cyfleoedd anffurfiol a gwella systemau pontio, mae hi’n ymddangos bod modd cynyddu’r safon ar draws y sector Saesneg ac yn ogystal mae hi’n bwysig i’w cofio heb gyfraniad y sector, yn fy marn i, ni fydd hi’n bosib cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a normaleiddio’r iaith yn ein cymunedau.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.