Adroddiad Blynyddol Estyn: Y Gymraeg yn y Sector Cymraeg, 2010 – 17

Mae ESTYN wedi cyhoeddi adroddiad hynod o ddiddorol ar sail y Gymraeg ym mhob sector ac yn ogystal maent yn cyfeirio at gynlluniau strategol dros addysg Gymraeg. Dyma ychydig o sylwadau er mwyn eich cefnogi i ddarganfod y prif negeseuon.

Sector Cymraeg:

Yn y Cyfnod Sylfaen ym mron pob ysgol gynradd a lleoliad cyfrwng Cymraeg, ceir pwyslais cryf ar ddatblygu’r Gymraeg drwy ei defnyddio’n gyson bob dydd ar draws yr holl feysydd dysgu. Mewn llawer o’r ysgolion a’r lleoliadau hyn, mae ymarferwyr yn fodelau rôl iaith da ac yn datblygu geirfa plant yn dda. Maent yn rhoi blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymreig cryf a chyfoethogi iaith plant. At ei gilydd, mae safonau disgyblion mewn Cymraeg yn dda. 

Felly mae modelu iaith yn allweddol i blant yn y blynyddoedd cynnar gan ddatblygu geirfa. Yn syml, mae’r pwyslais ar siaradwyr Cymraeg h.y. sut mae ysgolion yn mynd ati i ddatblygu sgiliau llafar.

Yn hanfodol, mae ESTYN yn cyfeirio at bwysigrwydd ethos ysgol er mwyn annog a hybu’r defnydd o’r iaith ond hefyd i  ymfalchïo yn ein diwylliant.

Mae llawer o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynllunio’n effeithiol i ddatblygu gwybodaeth a meistrolaeth disgyblion ar yr iaith. Mae arweinwyr yn yr ysgolion hyn yn pennu targedau uchelgeisiol i sicrhau bod disgyblion yn datblygu’u medrau Cymraeg o un flwyddyn i’r nesaf. Gwneir cynnydd da neu well gan ddisgyblion wrth ddatblygu’u medrau Cymraeg mewn llawer o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg. 

Datblygu ac adeiladu ar ddealltwriaeth plentyn sydd yn mynd i alluogi’r plentyn i wneud cynnydd. Mae hi’n bwysig i fod yn uchelgeisiol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr her i godi safonau a gwella. Neges gadarnhaol ydyw wedi cyfan ar gyfer disgyblion sydd yn sefyll TGAU yn y Gymraeg,

Yn gyffredinol, mae disgyblion sy’n dilyn y nifer fwyaf o gyrsiau TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu defnyddio’u Cymraeg yn well i drafod ac ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau gwahanol.

I rieni sydd yn becso am anfon plant i sefydliad cyfrwng Gymraeg, mae’r neges nesaf yn oll bwysig,

Mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn cyflawni ychydig yn well o ran dangosyddion perfformiad allweddol sy’n cynnwys Cymraeg, Saesneg neu fathemateg……

Gwelaf y frawddeg yn allweddol i rieni sydd yn dewis ysgol. Yn aml y rhwystr yw sut maent yn mynd i helpu gyda gwaith cartref ac ati ac wrth ystyried yr adroddiad mae modd rhannu neges gadarnhaol.

Mae’na glod i’r cynllun Sabothol,

Mae cyrsiau Cynllun Sabothol iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n gadarnhaol at wella ansawdd a chapasiti darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn awdurdodau lleol ledled Cymru….

Mae Cymraeg i oedolion hefyd yn derbyn clod,

Yn ystod y cylch arolygu, barnwyd bod safonau mewn tri chwarter o ddarparwyr Cymraeg i Oedolion yn dda neu’n well.

Ond nid yw’r cynlluniau strategol y siroedd yn derbyn yr un math o glod, mae Llywodraeth eisoes wedi cynnal adolygiad ac yn ddisgwyl i waith adeiladu adlewyrchu’r angen i gynyddu’r capasiti dros y Gymraeg,

Ceir gwendidau yn y ffordd y mae llawer o CSCAau awdurdodau lleol yn cael eu datblygu a’u rhoi ar waith. Adlewyrchir hyn yn y cynnydd araf a wneir yn erbyn llawer o’r targedau yn strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2016a). Er enghraifft, mae cyfran y dysgwyr Blwyddyn 2 sy’n cael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi aros ar ryw 22% dros y chwe blynedd diwethaf…..

Nid yw’r targedau wedi arwain at welliant parhaus yn y niferoedd o ddisgyblion sydd yn astudio’r Gymraeg. Yn fy marn i, bydd hyn yn newid gyda’r pwyslais newydd ar bolisi, ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg’.

I grynhoi, mae modd canmol safonau’r sector Cymraeg am y cynnydd dros y saith blynedd diwethaf ond heb fuddsoddiad sylweddol i ddatblygu capasiti dros addysg Gymraeg gan bob awdurdod lleol mi fydd y cyfle ar gael i 22% o ddisgyblion yn unig. 

Un agwedd syth yn sicr angen sylw yw’r niferoedd bach o ddisgyblion sydd yn astudio’r safon uwch. Mae angen sicrhau bod ein disgyblion yn gweld budd yn y cymhwyster ar gyfer eu dyfodol nhw a sut bydd yr iaith yn eu helpu yn y dyfodol yn y byd gwaith a thu hwnt.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.