Dyfodol Addysg Gymraeg

Wythnos diwethaf fe ddaeth neges hynod o bwysig am addysg Gymraeg gan ein Gweinidog newydd, Eluned Morgan,

“Y ffaith yw na fyddwn ni’n eu helpu nhw gyda chodi ysgolion newydd os nac ’yn nhw yn ein helpu ni i gyrraedd ein targedi ni [o filiwn o siaradwyr Cymraeg],” meddai Eluned Morgan.”

Mae Eluned Morgan yn cyfeirio at Awdurdodau Lleol wrth ddefnyddio ‘nhw’. Yn syml heb sicrhau bod cynlluniau adeiladu neu ddatblygu capasiti ysgolion yn cynnwys ysgolion addysg Gymraeg, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynlluniau ac yn fwy grymus, ni fydd Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiectau. Mewn modd hynod o effeithiol mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu dim Cymraeg dim arian.

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/509844-eluned-morgan-cynnydd-cymraeg-arian

Mae’r neges yn bwysig iawn ac yn rhoi grym i’r cynlluniau newydd dros addysg Gymraeg a’r Iaith Gymraeg a ddaeth i’r golwg jyst cyn Nadolig. Mae Katherine Davies wedi ysgrifennu erthygl ar flog Llywodraeth Cymru am hyn,

https://cwricwlwmigymru.llyw.cymru/2017/12/18/miliwn-o-siaradwyr-cymraeg-gallwn-gyflawni-hyn/#more-714



Nid yw’n gyfrinach ein bod yn symud tuag at un continwwm ar gyfer y Gymraeg,

“Mae hyn yn bwysig wrth i ni weithio tuag at sicrhau un llwybr dysgu Cymraeg yn y cwricwlwm newydd”

Felly mae’r sgwrs yn newid yn y byd addysg at dderbyn bod addysg Gymraeg yn mynd i gynyddu ar draws ein gwlad ac i ddeall nid oes iaith gyntaf neu ail iaith ond y Gymraeg.

Fodd bynnag mae yna ddyletswydd ar bob ysgol i greu siaradwyr ein hiaith ac yn sicr mae’r Siarter Iaith a chynlluniau PCAI yn ein hysgolion Uwchradd, yn ffordd allweddol at hyrwyddo’r iaith o fewn ein hysgolion. Fe ddaw mwy o benbleth wrth annog defnydd o’r iaith tu hwnt i furiau ysgol ond fel awgrymodd Myrddin ap Dafydd yn ei gerdd ‘Gwenllïan’, petai bob Cymro a Chymraes yn gwneud defnydd o’r iaith yn ddyddiol ac yn cymryd y cyfrifoldeb i wneud hynny, yn fy marn i, yr ydym yn mynd i lwyddo i normaleiddio’r iaith ac yn sicr ar strydoedd pob tref a stryd mi fydd yn bosib clywed a siarad Cymraeg.

Targedau Llywodraeth Cymru:

Cynyddu cyfran pob grwp blwyddyn ysgol sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg o 22 y cant (yn seiliedig ar 7,700 o ddysgwyr saith mlwydd oed yn 2015/16) i 30 y cant (tua 10,500 ym mhob grwp blwyddyn) erbyn 2031, ac yna 40 y cant (tua 14,000 ym mhob grwp blwyddyn) erbyn 2050.

Trawsnewid y ffordd rydym yn addysgu Cymraeg i bob dysgwr er mwyn sicrhau, erbyn 2050, fod o leiaf 70 y cant o’r dysgwyr hynny yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg pan fyddant yn gadael yr ysgol. 

Cynyddu nifer yr athrawon cynradd a all addysgu yn Gymraeg o 2,900 i 3,900 erbyn 2031 a 5,200 erbyn 2050; cynyddu nifer yr athrawon uwchradd a all addysgu Cymraeg o 500 i 900 erbyn 2031 a 1,200 erbyn 2050; a chynyddu nifer yr athrawon uwchradd a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 1,800 i 3,200 erbyn 2031 a 4,200 erbyn 2050.

Blwyddyn Newydd Dda ichi gyd. Mae cyfnod hynod o lewyrchus o’m blaenau ac mae rhaid mynd ati i gymryd mantais i gefnogi a gweithredu ar bob cyfle sydd yn codi.

Mewn geiriau Harri Webb,

‘Cael yn ôl o borth marwolaeth

Gân a ffydd a bri yr heniaith;

Cael yn ôl yr hen dreftadaeth

A Chymru’n dechrau ar ei hymdaith



 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.