O Bydded i’r Heniaith Barhau

O fewn Ewrop roedd gan Gymru a’r Iaith Gymraeg statws a chyfle cyfartal. Nid wyf yn ceisio ffurfio post gwleidyddol ond credaf yn gryf fod rhaid inni ddeall roedd buddsoddiad o Ewrop nid yn ariannol yn unig ond diwylliant ein gwlad a oedd wedi sicrhau tegwch dros ein hiaith ni.

Beth ydyn ni’n gallu gwneud i roi’r Iaith Gymraeg ar yr agenda ers y refferendwm? Yn bennaf oll bydd angen i Gymru deall ni fydd pawb yn gweld ein hiaith fel blaenoriaeth. Mae Cymru yn cynrychioli sawl safbwynt a mae rhaid inni geisio ein gorau i uno’r mwyafrif o Gymru tu ôl pwysigrwydd ein hetifeddiaeth. Mae rhaid gwneud yn siwr bod y dadl yn un sydd yn llwyddo i oresgyn unrhyw ffiniau gwleidyddol neu ddaearyddol.

Heb os nac oni bai yr ydym angen arweiniad gan y Cynulliad ond prif frwydr Carwyn Jones bydd i frwydro am degwch ariannol. A fydd amser gyda nhw i ystyried yr effaith ar ddiwylliant ein gwlad?

Mae S4C o dan bygythiad ariannol ac i wylwyr y sianel, rydym yn fwy nag ymwybodol o’r ffaith bod y sianel yn ailddarlledu sawl rhaglen tro ar ôl tro. Mae diffyg arian i gynhyrchu rhaglenni newydd yn amlwg yn cael effaith ar y dewis sydd ar gael ar y sianel. Cryfder S4C yw’r ffaith bod CYW yn wych ac yn sicrhau bod cyfle gan blant oedran cynradd i fwynhau amrywiaeth o raglenni ar eu cyfer nhw.

Mae’r niferoedd o lyfrau yn y Gymraeg yn dangos cryfder a bylchau yn y farchnad. Deallaf yn iawn bod awduron sydd yn ysgrifennu yn yr Iaith Gymraeg yn mynd i weld hi’n anodd i ennill bywoliaeth o farchnad sydd yn weddol fach ond prin iawn mae llyfr ar gael i blant rhwng 10-14 oed sydd yn sbarduno brwdfrydedd a hwyl. Ifi, dyma’r oedran allweddol. Mae sawl llyfr ardderchog i blant 1-6 oed ac yna 7-10 oed mae sawl llyfr megis Tudur Budr, Henri Helynt, llyfrau Gwyn Morgan e.e. Zac yn y Pac ac ati. Wrth gyrraedd yr oedran 10-14, roedd cyfres corryn yn arfer llenwi’r bwlch ond mae’r llyfrau’n weddol hen ffasiwn yn ei hedrychiad ac wedi bod mas o brint am amser hir. Mae ambell eithriad ond ar y cyfan credaf fod angen busoddi llawer mwy yn yr oed yma er mwyn sicrhau bydd darllenwyr y dyfodol. Plant bydd yn oedolion sydd eisiau codi llyfr Cymraeg. A fydd cefnogaeth ariannol ar gael dros delerau newydd gyda Llywodraeth San Steffan?

Nid refferendwm dros yr Iaith Gymraeg ydoedd wythnos diwethaf ac yr wyf yn sicr bod sawl Cymro a Chymraes wedi pleidleisio i adael Ewrop fodd bynnag mae rhaid inni sicrhau bod yr hawliau sydd gennym dros ein hiaith yn aros yn ei lle. Serch hyn oll, erthygl sydd yn gofyn sut bydd hi’n bosib i lenwi’r bwlch bydd buddsoddiad a chefnogaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn gadael?

Cwestiwn heb ateb ydyw am nawr ond hoffwn weld yr Iaith Gymraeg ar yr agenda wrth i bob parti gwleidyddol derbyn dydyn ni ddim yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd rhagor. Pwy bydd yn buddsoddi yn ein hiaith ac etifeddiaeth?

Mewn cais olaf fy erthygl, a gan ddilyn sawl post sydd gen i yn y Gymraeg ar fy wefan, dyma’r amser inni ddathlu ymdrechion pawb i siarad Iaith y nefoedd ac I dderbyn taw Iaith lafar yw Hanes ein hiaith ni ac wrth esblygu credaf fod angen inni gyd cefnogi pob person sydd yn gwneud defnydd o’r Iaith heb feirniadu’r safonau. Iaith fyw yw’r Iaith Gymraeg mewn sawl ardal gan gynnwys y miloedd o blant yn y de-ddwyrain sydd yn mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg. Ond rydym eisiau sicrhau bod yr Iaith yn fyw i bawb.

Y ffordd gorau i sicrhau dyfodol ein hiaith yw defnyddio’r Iaith heb ofn ar bob achlysur. Dwedwch diolch yn y siopau, hwyl fawr, da boch, bore da, sut mae? Fel arbrawf bach i fy hunan, dw i wedi gwneud hyn a fe gewch chi eich rhyfeddu i glywed sawl person bydd yn ymateb gan ymdrechu i siarad yr Iaith.

Ym mis Medi bydd Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn agor yng Nghaerdydd sef Ysgol Hamadryad. Ardal amlddiwylliant ydyw ac yn barod bydd y drysau’n agor i griw brwfrydig o ddisgyblion a fydd yn goresgyn unrhyw ffiniau i fod yn blant a fydd yn joio dysgu a chwarae yn y Gymraeg.

Mewn undod mae nerth. Nerth ein hiaith yw’r balchder a brwdfrydedd mae hi’n ennyn o Ynys Môn i fae Caerdydd. Iaith y cyhoedd, y werin, yw Cymraeg ac ein dewis ni ydyw i siarad yr Iaith ac i barchu pob person sydd yn defnyddio’r Iaith.

Wrth wylio rygbi a phêl-droed yn Euro 2016, mae calon lan, ein hanthem Genedlaethol, Hymns and Arias yn atseinio’r dros y byd. Balchder yw’r prif deimlad wrth glywed y canu ar y teledu a does dim byd wedi uno Cymru yn fwy nag ymdrechion ein chwaraewyr ym mhob maes.

Fel dwedais, ‘Mewn undod mae nerth’ ac er mwyn sicrhau dyfodol i’r ieuenctid, mae rhaid inni frwydro dros fuddsoddiad i Gymru fel oedd y Brexiteers yn addo (ond wrth wrando ar Ian Duncan Smith bore’ma addewid ffug ydoedd). Yn ail mae rhaid inni frwydro dros degwch i’r Iaith Gymraeg ac yn drydydd cydnabyniaeth dros ein hetifeddiaeth unigryw neu fel bydd pobl yn ein trin fel rhanbarth o Loegr a nid Gwlad.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s