Dimensiwn Cymreig – Adroddiad yr Athro Donaldson

adroddiad terfynol grŵp adolygu’r Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru sy’n datgan y ‘dylai’r fersiwn nesaf o’r cwricwlwm cenedlaethol i Gymru gymryd fel man cychwyn syniadau a delfrydau’r Cwricwlwm Cymreig presennol, gan adeiladu arnynt yn hytrach na’u trin fel atodiad. Dylai fod ganddo ddimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol’

Mae’r dyfyniad uchod yn dod o’r adroddiad, ‘Dyfodol Llwyddiannus’ gan yr Athro Donaldson. Hyn bydd sail ein Cwricwlwm newydd.

Heb os nac oni bai beth sydd yn fy nharo i’n gryf yw’r frawddeg,

‘yn hytrach na’u trin fel atodiad….’

Mae llawer o gwmniau yn ceisio gwerthu cynlluniau wedi seilio ar themau ond prin iawn yw’r teyrnged at y dimensiwn Cymreig.

Mae’r Adolygiad yn cadarnhau y dylai pynciau a disgyblaethau fod yn bwysig o hyd ond y dylid eu grwpio o fewn chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Bydd pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad hyn yn cynnwys, lle bo’n briodol, dimensiwn Cymreig yn ogystal â phersbectif rhyngwladol yn unol ag argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru.’

Does dim amheuaeth felly bod ein diwylliant yn mynd i fod yn rhan allweddol o Addysg i bob plentyn yng Nghymru. Dw i’n mor falch bod ffocws ar ddimensiwn Cymreig yn eistedd wrth ymyl perspectif rhyngwladol. A fydd hyn yn newid cynnwys TGAU yng Nghymru?

Sawl plentyn sydd yn deall stori Cymru? Sawl plentyn bydd yn gallu enwi tywysogion Cymru? Sawl plentyn sydd yn deall pa mor bwysig oedd ardaloedd Cymru yn ystod yr Oes Efydd?

Heb geisio rhoi gwers Hanes, teimlaf ein bod gyda chryn dipyn o bellter i fynd er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl Cymru heddiw at ddigwyddiadau hanesyddol megis gwaith Efydd a oedd yn cael ei marchnata dros Ewrop. Beth am freuddwyd Macsen? Efallai bod Macsen yw’r arwr cyntaf yng Nghymru. Ei enw Lladin oedd, Magnus Maximus, Ymerawdwr Rhufain rhwng 383 O.C. i 388 O.C. Roedd e wedi llwyddo i uno nifer o Geltiaid at ei achos.

Nid gwlad mewn cyd-destun heddiw oedd Cymru ond yn sicr roedd ein hiaith, storiau a chwedlau yn dechrau ffurfio hunaniaeth unigryw. Mae Macsen yn Parhau i fod yn arwr yn ein caneuon gwerin. Gwrandewch ar eiriau Dafydd Iwan yn ei gân ‘Yma O hyd’.

Ife ‘Welsh’ neu ‘Cymry’ ydyn ni? Mae’r ystyr y ddwy enw yn gwbwl wahanol. ‘Welsh’ yn golygu estroniaid ond ‘Cymry’ yn golygu ein bod yn perthyn. Yn rhyfedd, Brenin o ‘Mercia’ a oedd yn gyfrifol am ffurfio ffiniau Cymru gan adeiladu Clawdd Offa.

Oes llawer o blant yng Nghymru wedi clywed am ‘Y Gododdin’ ? Mae gwreiddiau tywysogion Cymru yn cychwyn yn yr Alban, yn y Firth of Forth, pan ddaeth Cunedda i gefnogi’r brwydr yn erbyn y Gwyddelod yng ngogledd Cymru. Ei feibion a wnaeth sefydlu teyrnasau yng Nghymru.

Beth am gyfraith Hywel Dda? Mae Prydain yn dathlu’r ‘Magna Carta’ ond Ydy’r Cymry’ yn dathlu neu hyd yn oed cofio cyfraith Hywel Dda?

Beth am uchelgais Owain Glyndwr i greu Prifysgol yng Nghymru?

Mae’r uchod yn fraslun o ddiffygion yn ein Cwricwlwm presennol. A oes cyfle euraidd i ail ffurfio ein dealltwriaeth o Hanes Cymru? Nid gwlad mewnol oedd Cymru ond gwlad a oedd yn edrych yn allanol, roeddent yn wybodus am wledydd eraill ac wrth farchnata, rhannu diwylliant a chwedlau roedd Cymru gyda llais rhyngwladol. A oes cyfle i ail edrych ar gynnwys ein TGAU Hanes ac ystyried cynnwys un uned ar Hanes Cymru? Yn yr Ysgolion cynradd, a oes modd ystyried Hanes cynnar Cymru?

Fel hanesydd, dydw i ddim yn dweud bod dysgu am yr Ail Ryfel Byd ac ati ddim yn bwysig ond credaf fod modd cynnwys un uned ar Hanes ein gwlad.

Yng Nghymru heddiw mae yna pobl sydd dal ddim yn gwybod am Hanes y ‘Welsh Not’, pan gafodd plant y gansen am siarad Cymraeg. Dw i’n teimlo bod angen i bawb clywed chwedlau Cymru, dysgu am ein Hanes a dathlu.

Does dim angen i’r dimensiwn Cymreig bod yn uniongyrchol am ein Hanes. Yn y Byd chwaraeon heddiw mae Cymru yn gwneud yn arbennig o dda,

Pêl-droed  – Mae Cymru yn y Deg Uchaf o’r Byd
Rygbi – Mae Cymru yn y Deg Uchaf o’r Byd
Rhai o’r seiclwyr gorau yn y Byd
Golff, Martial Arts, Athletau a mwy, mae Cymru yn dangos y gallu i gystadlu ar y lefel uchaf.

Beth am feirdd a chantorion? Mae pob rhaglen ‘reality’ wedi dangos y Cymry ar eu gorau e.e. Côr Glanaethwy ac ‘Only Boys Aloud’ ar BGT. Mae Caryl Parry Jones ac Elin Fflur yn dangos pa mor dda yw’r ddawn yng Nghymru (sori am y tuedd, dyma fy hoff gantorion o Gymru).

Yn y maes Gwyddonol, mae Prifysgol Caerdydd yn gwneud gwaith ymchwil hynod o bwysig wrth ddarganfod sut i atal cancr. Wrth gwrs dw i’n ffocysu ar enghraifft modern ond mae digon o esiamplau hanesyddol.

Fy mhwynt yw hyn, mae’r dimensiwn Cymreig yn hynod o eang ac fe ddylai rhaeadru mewn modd strategol ar draws pob maes yn y Cwricwlwm newydd.

Mae cyfle euraidd gennym, ydyn ni’n barod i dderbyn yr her?

http:// http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/curriculuminwales/reform/successful-futures/?lang=cy

image

image

Advertisements

3 Comments Add yours

  1. Diolch Richard, blognod pwysig iawn ac yn ochr diddorol iawn i’r holl drafod am adroddiad yr Athro Donaldson. Cytunaf yn llwyr gyda’r pwyntiau ti’n codi yma ac yn cytuno taw cyfle euraidd sy gennym i greu cwricwlwm Cymreig go iawn, nid yn unig o safbwynt ein hiaith ond hefyd yr ochr diwylliannol, diwydiannol, gwleidyddol, hanesyddol ac economaidd. Wrth ddarllen dy flog ces i fy atgoffa o drip addysgiadol i Genia es i arno a chlywed y disgyblion yno yn ateb cwestiynau am Genia oedd yn dangos pa mor ymwybodol oedden nhw o’i gwlad, hunaniaeth, economi a gwleidyddiaeth. Ces i’r fraint o ddysgu bach o Kiswahili ganddynt hefyd gan ei fod yn hefyd yn aml-ieithog. Wrth glywed nhw’n siarad a datgelu’r holl wybodaeth yma yn 11 a 12 oed, dwi’n cofio teimlo rhywfaint o dristwch oherwydd fy mod yn ymwybodol iawn na fasai llawer o blant Cymru yn gallu siarad am Gymru i’r un safon. Byd rhyfedd iawn weithiau. Diolch am rhannu dy feddyliau a gwneud i fy ystyried y pwyntiau ehangach yn yr adroddiad.

    @barringtonjmock

  2. Reblogged this on BlogBJMock – Y Byd a'r Betws and commented:
    Adroddiad yr Athro Donaldson

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s