Siarad Cymraeg

Ar ôl darllen blog arbennig, @BarringtonJMock http://blogbjmock.wordpress.com/2015/05/26/cyfweliad-taror-post-siarad-cymraeg-wedir-ysgol/, fe ges I fy ysbrydoli i ychwanegu at y dadl.

Pwnc sydd yn agos iawn at fy nghalon ydyw ac felly hoffwn awgrymu ein bod yn ffocysu yn ormodol ar Addysg a dim digon ar ddadl sydd yn fwy anodd i dderbyn ac esbonio oherwydd dydy’r atebion ddim mor hawdd h.y. defnydd o’r Iaith Gymraeg yn ein cymunedau.

Credaf yn gryf fod yr iaith yn fyw yng nghymoedd y de o safbwynt twf a galw am Addysg Gymraeg fodd bynnag credaf hefyd fod gormod o oedolion sydd yn gallu siarad Cymraeg yn teimlo’n ddihyder ac yn ofni gwneud defnydd o’r iaith.  Mae’r embaras yn ormod iddynt.  Dydyn nhw ddim eisiau cael eu cywiro felly yn y diwedd maent yn penderfynu osgoi defnyddio’r iaith.  Sefyllfa drist iawn sydd yn bodoli felly.  Dydw I ddim yn siarad heb dystiolaeth ar y pwnc.  Mewn sawl ysgol lle dwi wedi gweithio roeddwn yn cwrdd â rhieni newydd yn dweud yn agored eu bod wedi dysgu Cymraeg neu yn gyn-ddisgyblion ysgolion Cymraeg ac oherwydd dydyn nhw ddim wedi cael y cyfle i siarad yr iaith does dim hyder ganddynt i wneud yn gyhoeddus.  Dydyn nhw ddim wedi colli cariad at yr iaith, maent yn anfon eu plant at ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Pan ddaeth canlyniadau’r cyfrifiad i’r penawdau roedd y ffocws i gyd ar yr Iaith Gymraeg, hyn sydd wedi cychwyn y ddadl ond hoffwn ddweud bod y cyfryngau a Chymry Cymraeg fel fi yn colli mas ar un o brif broblemau sef y siaradwyr sydd ddim yn gyfforddus neu’n ddigon hyderus i ddweud eu bod yn gallu siarad ein hiaith.  Yn fy marn i mae miloedd o bobl yn y De Ddwyrain o’r Wlad sydd yn teimlo fel hyn.

Pam?

Dydw i ddim yn sicr o’r ateb ond wrth siarad gyda’r bobl dydyn nhw ddim eisiau cael eu beirniadu am beidio siarad yn gywir, maent yn ansicr o’r treigladau ac yn becso am ffurf y ferf ac ati.  Heb os, Iaith lafar yw’r Gymraeg.  Iaith heb draddodiad ysgrifennu ydoedd am flynyddoedd maeth.  Felly, a oes modd yn ein hoes ni i groesawu unrhywun sydd yn barod i ddefnyddio’r iaith heb feirniadu’r safon? Fy mhwynt yw hyn, sawl person ydych chi’n adnabod sydd yn siarad Saesneg yn gywir?  Yn fy mywyd i, prin iawn yw’r bobl sydd yn gallu gwneud hyn, efallai hanner dwsin ar y mwyaf.  Ydyn ni’n dweud wrth y bobl, plîs peidiwch â Siarad Saesneg nes eich bod yn gallu gwneud yn gywir?  Sawl plentyn mewn Ysgol Gyfrwng Saesneg, sydd yn defnyddio Saesneg fel Iaith yr aelwyd sydd yn llwyddo i siarad Saesneg yn gywir?

Bathodyn Siarad Cymraeg.

Petai bawb yn teimlo’n gyfforddus mi fydd pawb yn siarad Cymraeg heb fecso am feirniadaeth.  Yn y Brifddinas, mae’r cyfle i siarad Cymraeg bron ym mhob siop yn dangos ein dyletswydd ni ydyw i wneud hynny.  Mae hi’n bosib gwneud o Hollister i John Lewis ond faint o Gymry Cymraeg sydd yn gwneud defnydd o’r gwasanaeth arbennig?

Dydw i ddim eisiau ffurfio darlun hollol negyddol, yng Nghaerdydd heddiw, mae’r ffaith ein bod yn gallu siarad Cymraeg yn atseinio ar bob stryd.  I gymharu fy mhrofiadau fel plentyn yn yr wythdegau, dwi nawr yn gallu cerdded y strydoedd a chlywed yr iaith yn fyw!

Clywed ein hacen ni.

Sawl person yn y cyfryngau sydd yn siarad fel ni? Ar gyfartaledd, sawl acen dde-ddwyrain Cymru sydd ar y radio neu deledu? Mae dyletswydd gan y bobl i sicrhau bod sawl acen i’w glywed gan gynnwys ein hardal ni.

Cadw diddordeb disgyblion.

Dydy hyn ddim yn hawdd tra bod dylanwadau’r byd yn galw ein disgyblion yn enwedig America.  A ddylem ofidio yn arw am hyn? Wel, na chyd rydym yn gallu gwneud yw derbyn bod plant angen darganfod, ymchwilio a mwynhau pob math o bethau a ni ddylem weld hyn fel brwydr dros yr Iaith.  Yn sicr, mae hi’n bwysig i ddangos bod adloniant ifanc a brwd ar gael yn y Gymraeg.  I ddangos bod cyfle i gwrdd â phobl debyg. Mae’r Urdd a Menter Iaith yn holl bwysig, nhw sydd yn rhoi’r cyfleoedd euraidd i blant i ddefnyddio’r iaith.

A oes digon o adloniant ar gael I blant yn eu harddegau?

Yn sicr pan oeddwn yn fach mi oedd mwy o ddewis cylchgronau a comics yn y Gymraeg.  Does dim y dewis ar gael iddynt erbyn heddiw.  Beth am statws yr iaith ar ‘Social Media’? Faint o bobl sydd yn trydari yn y Gymraeg i gymharu gyda’r niferoedd sydd yn gallu defnyddio’r Gymraeg?  Sawl Ap sydd ar gael yn y Gymraeg? Sawl blog sydd yn y Gymraeg? Mae fy mlog yn ddwyieithog gyda’r iaith y post yn dibynnu ar y testun. Dyma un ffordd o newid addysg, rhowch fwy o bwyslais ar Iaith lafar a defnydd effeithiol o’r iaith ysgrifennu e.e. ysgrifennu blog ar ffasiwn, rhaglenni teledu, chwaraeon ayyb  Hoffwn weld disgyblion yn cael eu paratoi i ddefnyddio’r iaith yn y byd busnes, mewn sefyllfaoedd go iawn ac efallai bod rôl angenrheidiol gan yrfaoedd Cymry i ddangos pa mor ddefnyddiol yw’r iaith yn y gweithle.

Does dim llawer o lyfrau yn y Gymraeg sydd yn apelio at blant yn eu harddegau. Fodd bynnag, wrth ffocysu ar wneud yr iaith yn fyw ar-lein, teimlaf fod siawns arbennig gennym i wneud yr iaith yn fwy cyfoes, yn addas at fyd heddiw.  Mae Ap Cymru Fyw yn esiampl ardderchog o sicrhau bod yr Iaith ar gael i ddarllenwyr newyddion ac ati. Mae angen sicrhau bod ein holion digidol yn dangos bod yr Iaith yn fyw!  Mae plant yn treulio mwy o amser ar lein nag erioed ac mae rhaid sicrhau bod yr iaith ar gael ar You Tube, apiau ac ati.

Does dim modd cystadlu gyda chwmnïau anferth ar sail gemau Xbox, PS4 ond mae sawl Ap arbennig yn y Gymraeg megis Magi Ann, Cyw, Llythrennedd, ac Ap newydd Alun Arth! Ond ydych chi’n sylwi ar batrwm? Apiau sydd yn apelio at blant ifanc ydyw, sawl ap sydd ar gael i apelio at blant rhwng 8 – 18 oed? Heb amheuaeth, mae’r ffaith bod ‘Minecraft’ ar gael yn y Gymraeg yn wych ond mwy o gemau fel hyn sydd angen ar blant.

Yn syml hoffwn ehangu ar ffocws y ddadl gan ddweud bod angen ystyried yr oedolion sydd yn gallu siarad Cymraeg ond sydd yn llawn nerfusrwydd ac ansicrwydd, i ystyried sut i wella olion digidol  yr Iaith Gymraeg ac i ystyried sut i sicrhau bod digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ar lein.

Advertisements

8 Comments

  1. Diolch o galon am y blog yma Mr C. Rhaid i mi gyfadde dw i’n cytuno’n llwyr gyda dy bwyntiau di am ehangu’r dadl a rhaid sicrhau nad ydy’r athrawon na’r ysgolion yn sail i bob dim yng nghyd-destun y Gymraeg a’i defnydd. Dw i’n ofni dy fod ti’n iawn hefyd am yr hyder i siarad gan nifer fawr o bobl sy wedi derbyn addysg yn y gorffennol – sef bron pawb erbyn hyn. Well siarad Cymraeg gwallus na pheidio i’w siarad o gwbl yn fy marn i ac mae dy bwynt am Gymraeg yn iaith ar lafar yn un pwysig. Cyfathrebu sy’n bwysig ac mae cyfrifoldeb gan bawb yn y gymuned i beidio pwysleisio safon iaith unigolion bob amser a dangos y ffordd ymlaen trwy hyrwyddo’r iaith gan ddangos amynedd at y rhai sy’n ymdrechu i ddysgu, ail-gydio neu ymarfer. #pethaubychain

  2. Blognod diddorol tu hwnt! Ac y mae’r pwyntiau’r wyt yn eu cynnig yn deg ac yn gywir. Mae sawl ochr i’r ddadl hon: ystyr “ail iaith” ac “iaith gyntaf”; argaeledd yr iaith; siaradwyr ifainc ac yn hen; technoleg; addysg; y gymuned; iaith “bob dydd” a’r iaith lenyddol (ysgrifenedig, yn y cyfryngau, er enghraifft) a sawl arall. Ac dyma paham y mae’n sefyllfa iaith ni yma yng Nghymru mor wahanol, mor unigryw, mor “fregus” nag unrhyw wlad arall yn y byd hwn.

    Rwyf yn aros dan ddal anadl i gael fy ngliniadur yn ôl er mwyn dweud fy nweud ar y pwnc hwn. Byddaf yn cyfeirio at dy flog di ac at flog Barri.

    Cofion am y tro.

  3. Blognod diddorol tu hwnt! Ac y mae’r pwyntiau’r wyt yn eu cynnig yn deg ac yn gywir. Mae sawl ochr i’r ddadl hon: ystyr “ail iaith” ac “iaith gyntaf”; argaeledd yr iaith; siaradwyr ifainc ac yn hen; technoleg; addysg; y gymuned; iaith “bob dydd” a’r iaith lenyddol (ysgrifenedig, yn y cyfryngau, er enghraifft) a sawl arall. Ac dyma paham y mae’n sefyllfa iaith ni yma yng Nghymru mor wahanol, mor unigryw, mor “fregus” nag unrhyw wlad arall yn y byd hwn.

    Rwyf yn aros dan ddal anadl i gael fy ngliniadur yn ôl er mwyn dweud fy nweud ar y pwnc hwn. Byddaf yn cyfeirio at dy flog di ac at flog Barri.

    Cofion am y tro.

  4. Diolch am trafod hwn! Nes i beidio siarad Cymraeg nifer o weithiau ar ol adael yr ysgol trwy fod yn ofn rhywun ‘Cymru Cymraeg’ yn trio fy nghywiro. Ers i fi cael plant a’u danfon nhw i ysgol cymraeg, ac hyd yn oed ymuno a’r staff yn yr ysgol yna fel swyddog amser cinio, mae fy hyder yn dod nol i siarad Cymraeg yn cyhoeddus; trwy sgwrsio a clecsan gyda’r athrawon, a siarad cymraeg gyda’s plant adre.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s